Cwmni Da

 

1 Rhagfyr 2023

 

Annwyl Gyfaill,

 

Ysgrifennwn atoch mewn ymateb i lythyr sydd wedi’i anfon at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Y Gwir Anrh. Lucy Frazer CB AS gan gyn brif weithredwr y darlledwr Cymraeg S4C. Fe'i rhannwyd hefyd ar ei chyfrif X, twitter gynt. Mae’r llythyr yn cynnwys nifer o honiadau a datganiadau sy’n peri gofid mawr.

 

Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu sy’n cyflogi 51 o staff llawn amser, wedi’i leoli yng ngogledd orllewin Cymru, sy’n cael ei ystyried yn ardal ddifreintiedig. Rydym yn unigryw yn y diwydiant yng Nghymru fel cwmni ymddiriedolaeth ym mherchnogaeth er budd y gweithlu. Rydym yn aruthrol o falch o’n tîm hynod fedrus ac ymroddedig a’r cynnwys gwych y maent yn ei greu ar gyfer S4C a darlledwyr eraill. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gallu cynnig nifer o lwybrau i mewn i'r diwydiant a lefel uchel o hyfforddiant a datblygiad.

 

Mae’r llythyr a rannwyd yn gyhoeddus ddoe yn fygythiad uniongyrchol i’r diwydiant cynhyrchu cyfryngau yng Nghymru. Credwn fod yn rhaid datrys y sefyllfa bresennol yn S4C ar fyrder, er mwyn y gwasanaeth y mae S4C yn ei ddarparu i wylwyr yng Nghymru a ledled y DU, i S4C ei hun a’r ystod eang o gwmnïau cynhyrchu – mawr a bach ar draws y wlad. Rydym yn cefnogi'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn llwyr yn y sefyllfa bresennol, ac nid yw unrhyw drafodaeth am eu dyfodol ar hyn o bryd yn ddefnyddiol. Rydym yn condemnio yn y modd cryfaf posibl weithredoedd honedig y prif weithredwr blaenorol.

 

Mae yna sianeli priodol a chydnabyddedig ar gyfer codi pryderon a mynd ar drywydd cwynion. Nid cyfryngau cymdeithasol mohono. Nid yw hyrwyddo’r naratif hwn yn ddefnyddiol, yn enwedig yn yr wythnos pan fo’r BBC wedi cyhoeddi £500miliwn o doriadau.

 

Camarweiniol, ar y gorau, yw’r naratif sy’n honni bod popeth yn y 18 mis diwethaf wedi bod yn llwyddiant a'r blynyddoedd blaenorol yn fethiant.

 

Mae cynnwys a gynhyrchir yng Nghymru wedi’i werthu yn llwyddiannus iawn ar y farchnad ryngwladol ers sawl blwyddyn, gyda chyfresi drama fel Hinterland a Byw Celwydd yn  ddau o’r llwyddiannau hynny. Mae hyn wedi arwain at incwm ariannol i'r diwydiant yng Nghymru. Rydym ni yn un o’r cwmniau niferus sydd wedi bod yn gweithio’n rhyngwladol ers blynyddoedd maith a hynny yn llwyddiannus. Mae’n cynnig gwerth am arian o ran cynnwys i’r gwylwyr, yn darparu heriau a chyfleoedd dysgu gwerthfawr i staff, ac yn helpu i godi proffil Cymru yn y farchnad ryngwladol.

 

Mae Ms Doyle hefyd yn datgan yn gyhoeddus ei chynllun i leihau gwaith i gwmnïau sydd â throsiant uchel, a weithredwyd yn llwyddiannus yn ôl hi. O dan gynllun Ms Doyle, ymddengys bod cwmnïau cynhyrchu profiadol yn cael eu cosbi, a hynny am ddim rheswm heblaw am eu llwyddiant cymharol. Rydym wedi cael sicrwydd gan S4C nad yw’r cynllun personol hwn erioed wedi’i gymeradwyo gan Fwrdd Unedol S4C na’i drafod gyda chomisiynwyr y sianel.

 

Os nad oedd Bwrdd y sianel neu’r comisiynwyr cynnwys yn ymwybodol o’r polisi hwn, sut oedd hi’n bosibl bod polisi cyfrinachol o’r fath wedi arwain at ‘gynyddu creadigrwydd a thryloywder’? Mae’n gyfaddefiad sy’n peri pryder sylweddol, ac erys cwestiynau difrifol am y polisïau busnes a weithredwyd gan S4C dros y 18 mis diwethaf.

 

Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig codi’r materion hyn gyda chi gan fod honiadau’r unigolyn dan sylw yn cael eu rhannu ac felly, yn amlwg, eu trafod. Mae’n destun pryder mawr i ni fod  gweithrediadau S4C dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn peryglu enw da darlledwr gwasanaeth cyhoeddus cenedlaethol pwysig.

 

Yn gywir,

 

Llion Iwan (Rheolwr Gyfarwyddwr)
Bethan Griffiths (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)
Sioned Wiliam (Cyfarwyddwr Anweithredol) 
Phil Williams (Cyfarwyddwr Anweithredol) 


 

Cwmni Da      Doc Fictoria      Caernarfon      Gwynedd      LL55 1SR